Mae cyrchoedd awyr wedi’u cynnal ar brifddinas Yemen neithiwr, a hynny mewn ymateb i farwolaeth cyn-arlywydd y wlad, Ali Abdullah Saleh.

Fe gafodd rhai o ardaloedd mwya’ poblog Sanaa eu taro gan Sawdi Arabia a’i chynghreiriaid wedi i’r gwleidydd gael ei ladd gan y gwrthryfelwyr Shiiaidd sy’n rheoli’r ddinas.

Mae cynrychiolwyr y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod cymaint â 25 o gyrchoedd wedi bod yn ystod y 24 awr diwetha’ .