Mae Pab Francis wedi beirniadu’r rheiny sy’n gwadu’r dystiolaeth wyddonol dros gynhesu byd-eang, ac mae wedi annog trafodwyr mewn cynhadledd yn yr Almaen i osgoi agweddau felly.
Fe gyhoeddodd pennaeth yr Eglwys Gatholig i gyd-daro â’r cyfarfod yn ninas Bonn sy’n ceisio rhoi Cytundeb Paris 2015 ar waith er mwyn lleihau allyriadau led-led y byd.
“Mae cynhesu byd-eang yn un o’r materion mwyaf sy’n wynebu’r ddynoliaeth,” meddai’r Pab.
“Mae’n rhaid i ni geisio osgoi syrthio’n gaeth i’r hen agweddau, dydi rheiny ddim o gymorth i ymchwil onest nac i drafodaeth gynhyrchiol.”