Mae Sbaen wedi rhybuddio rhai o awdurdodau’r Undeb Ewropeaidd am ymgyrch a allai fod yn dod o Rwsia i geisio ansefydlogi rhanbarth Catalwnia.
Yn ôl Gweinidog Amddiffyn Sbaen, Maria Dolores de Cospedal, mae’n ymddangos fod llawer o’r gweithredoedd hyn yn dod o Rwsia, ond nad yw’n bosib adnabod y ffynhonnell yn llwyr eto na chwaith pennu a yw llywodraeth Rwsia yn rhan ohono.
Nid yw’r gweinidog wedi datgelu sut effaith y gallai’r ‘wybodaeth ffug’ yma ei gael ar yr ymgyrch etholiadol.
Ac mae uned strategaeth cyfathrebu’r Undeb Ewropeaidd, Tasglu East StratCom, wedi awgrymu’n ddiweddar fod achosion tebyg wedi dod o sawl ffynhonnell Rwsiaidd yn gysylltiedig â’r Kremlin.
Mae’r uned yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd mewn achosion o’r fath yn gysylltiedig â refferendwm Catalwnia.