Mae America a Rwsia yn dod yn nes at gytuno ar ffordd o ddod â’r ymladd yn Syria i ben ar ôl trechu’r Wladwriaeth Islamaidd, yn ôl swyddogion.

Os bydd cytundeb, mae disgwyl cyhoeddiad gan yr Arlywydd Donald Trump ac Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yn Fietnam heddiw, meddai pedwar swyddog o’r Unol Daleithiau.

Mae’r Unol Daleithiau wedi bod yn gyndyn i drefnu cyfarfod ffurfiol rhwng y ddau arweinydd oni bai bod ganddyn nhw gytundeb sylweddol i’w gyhoeddi.

Ond yn ôl ysgrifennydd y Tŷ Gwyn, Sarah Huckabee Sanders, fyddan nhw ddim yn cynnal cyfarfod ffurfiol am fod amserlen y ddau yn gwrthdaro. Er hynny, dywedodd y byddai’n bosib y gallai’r ddau “daro i mewn i’w gilydd” gan fod y ddau yn Fietnam.

Yr ymladd

Daw’r newyddion am gytundeb wrth i’r rhyfel cartref yn Syria barhau ac ynghanol sôn bod byddinoedd yn agosáu at drechu IS yn gyfan gwbl.

Dyw ymladd y grŵp eithafol ddim yn flaenoriaeth rhagor, gyda’r ffocws yn troi at y gwrthdaro rhwng Arlywydd Syria, Bashar Assad a rebeliaid, a phryderon y gallai pwerau eraill fel Iran gael dylanwad mawr ar ddyfodol y wlad.