Mae arweinydd yr wrthblaid yn Cenia, Raila Odinga, wedi beirniadu’n llym yr etholiad a gynhaliwyd yr wythnos ddiwetha’.
Fe gafodd yr arlywydd, Uhuru Kenyatta, ei gyhoeddi’n enillydd, a hynny wedi i etholiad Awst 8 eleni, gael eu barnu’n annilys.
Mae Raila Odinga yn dweud y dylia cynnal y bleidlais am y trydydd tro, ac wedi addo dal ati i brotestio yn erbyn y broses mewn gwrthdystiadau ar y strydoedd.
Roedd Raila Odinga wedi gwrthod cydnabod etholiad Hydref 26.
“Rydan ni’n mynnu etholiad teg, rhydd a chredadwy,” meddai. “Dyna mae’r Goruchaf Lys yn ei fynnu hefyd, ac mae’n well ein bod ni’n ail-gynnal y bleidlais mor fuan â phosib.”
Mae’r wrthblaid wedi addo “boicot economaidd, protestiadau heddychlon, picedu a ffurfiau eraill o brotestio heddychlon”, ond mae cefnogwyr Raila Odinga wedi mynd benben â’r heddlu ar y strydoedd ers yr wythnos ddiwethaf.
Mae o leiaf naw o bobol wedi’u lladd.