Mae miloedd o ffeiliau newydd am farwolaeth yr Arlywydd J F Kennedy wedi cael eu cyhoeddi am y tro cynta’ – ond mae’r gyfrinach fawr yn aros.

Ar y funud ola, fe benderfynodd arlywydd presennol yr Unol Daleithiau, Donald Trump, bod rhaid cadw cannoedd o ffeiliau’n ôl oherwydd ‘diogelwch cenedlaethol’.

Fe fydd y gwasanaethau cudd yn adolygu’r rheiny yn ystod y misoedd nesa’.

Rhybudd i bapur newydd

Un o’r straeon sydd wedi dod i’r amlwg yw fod papur newydd yng Nghaergrawnt – y Cambridge News – wedi cael galwad ffôn ugain munud cyn y llofruddiaeth yn sôn am stori fawr yn America.

Ond, hyd yn hyn, does dim i ddadwneud y stori swyddogol bod yr Arlywydd wedi ei saethu ar 22 Tachwedd 1963 yn Dallas gan ddyn 24 oed o’r enw Lee Harvey Oswald.

Fe gafodd yntau ei saethu gan ddyn o’r enw Jack Ruby, cyn dod o flaen llys.

‘Dim cuddio’

Fe benderfynodd ymchwiliadau swyddogol fod Lee Oswald wedi gweithredu ar ei ben ei hun ac nad oedd Jack Ruby’n rhan o ymgais i guddio’r gwir.

Ond mae pob math o ddamcaniaethau wedi eu cynnig am y llofruddiaeth gan gynnwys ymyrraeth gan yr Undeb Sofietaidd.

Fe fyddai John Kennedy wedi bod yn 100 eleni.