Mae pryder am ragor o wrthdaro yng Nghatalwnia os bydd Llywodraeth Sbaen yn cymryd grym oddi ar Lywodraeth y wlad.

Y disgwyl yw y bydd senedd Sbaen yn pleidleisio heddiw tros weithredu rhan o’r cyfansoddiad i dynnu hunanlywodraeth oddi ar Gatalwnia, tros dro o leia’.

Ar yr ochr arall, mae’n bosib y bydd y Llywodraeth ym Marcelona yn cyhoeddi annibyniaeth – er eu bod nhw wedi dal yn ôl rhag gwneud hynny hyd yn hyn.

Un arwydd o hynny yw fod rhai aelodau sy’n erbyn datganiad o’r fath wedi ymddiswyddo.

Dim etholiad – nac annibyniaeth hyd yn hyn

Fe ddaw’r argyfwng diweddara’ ar ôl i Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, benderfynu ar y funud olaf i beidio ag ufuddhau i alwad Sbaen a chynnal etholiad brys.

Roedd protestwyr wedi tyrru at balas y llywodraeth yn Barcelona a’i gyhuddo o fod yn fradwr – roedden nhw eisoes yn flin ei fod wedi oedi ar ôl y refferendwm annibyniaeth ddechrau’r mis.

Yn ei anerchiad ddoe, dywedodd ei fod wedi penderfynu peidio â galw etholiad am nad oedd Sbaen wedi rhoi digon o sicrwydd na fyddai’n ceisio cymryd grym oddi ar Gatalwnia.

Ond ddaeth dim datganiad unochrol o annibyniaeth.

Cwmnïau’n symud

Mae gwrthwynebwyr annibyniaeth yn honni bod mwy na 1,500 o fusnesau wedi symud eu pencadlysoedd swyddogol o Gatalwnia ers y refferendwm, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gweithredu dan gyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd.