Slymiau Mukuru Sinai yn Kenya. Llun oddiar NTV
Cafodd o leiaf 70 o bobol sy’n byw mewn slym yn Kenya eu lladd pan ffrwydrodd pibell danwydd dyllog heddiw.
Roedd y fflamau wedi achosi i nifer o gytiau fynd ar dan gan losgi nifer o bobol. Credir bod y tanwydd wedi ffrwydro wrth i’r bobol geisio casglu’r tanwydd oedd yn gollwng mewn bwcedi a phowlenni.
Neidio i’r afon
Dywedodd plismon yn Nairobi bod nifer o bobol wedi neidio i’r afon er mwyn ceisio diffodd y fflamau.
Yn ol y Groes Goch mae nifer y rhai a laddwyd wedi codi i 75 ac mae’n bosib y gall y ffigwr yna godi.
Pan ddigwyddodd y ffrwydrad roedd nifer o bobl ar eu ffordd i’r gwaith neu’r ysgol ac wedi stopio er mwyn casglu’r tanwydd.
Mae o leia 112 o bobol sydd wedi eu llosgi’n ddifrifol wedi eu cludo i’r ysbyty.
Mae’n debyg bod anghydfod wedi bod ynglyn a rhoi’r bibell danwydd ger slymiau Mukuru Sinai lle mae 12,000 o bobl yn byw.
Yn 2009 cafodd o leia 120 o bobol eu lladd yn Kenya wrth iddyn nhw gasglu tanwydd oedd yn gollwng o dancer a ffrwydrodd.