Y gwaith niwclear yn Ffrainc
Mae gweithiwr wedi marw ac un arall wedi ei anafu’n ddifrifol ar ol ffrwydrad mewn safle gwastraff niwclear yn Ffrainc.

Dywedodd Awdurdod Diogelwch Niwclear y wlad nad oedd unrhyw ymbelydredd wedi gollwng yn sgil y ffrwydrad ar safle niwclear Centraco. Roedd y ffrwydrad dan reolaeth o fewn yr awr, yn ol yr asiantaeth.

Mae Centraco ger safle niwclear arall, Marcoule, yn ardal Languedoc-Roussillon. Digwyddodd y ffrwydrad mewn ffwrn a ddefnyddir i doddi gwastraff niwclear sydd ag ychydig iawn o ymbelydredd, meddai’r asiantaeth. Nid oedd y rhai hynny gafodd eu hanafu wedi eu llygru gan ymbelydredd a doedd dim difrod i’r ffwrn chwaith, meddai’r asiantaeth mewn datganiad arall.

Mae Ffrainc yn dibynnu’n helaeth ar ynni niwclear gyda’r rhan fwyaf o gyflenwad trydan y wlad yn dod o 58 adweithydd niwclear ar hyd a lled y wlad.