Al-Saadi Gaddafi
Mae confoi yn cario al-Saadi Gaddafi, mab unben Libya, Muammar Gaddafi, wedi croesi’r ffin i mewn i Niger, cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd llywodraeth Niger fod mab 37 oed Gaddafi wedi ffoi o i’r wlad gyda naw person arall.

Roedd y cerbyd yn teithio tuag at dref Agadez yng ngogledd Niger, lle mae pobol eraill sydd wedi ffoi o Libya yn aros mewn gwesty.

“Hoffwn gyhoeddi fod un o feibion Gaddafi – al-Saadi Gaddafi – wedi ei ryngipio yng ngogledd Niger gan fyddin y wlad,” meddai llefarydd.

Ychwanegodd nad oedd gan al-Saadi Gaddafi “unrhyw statws” yn Niger, gan awgrymu na fyddai yn cael ei ystyried yn ffoadur.

Ers yr wythnosau diwethaf mae sawl confoi llawn cyn-swyddogion gweinyddiaeth Libya wedi croesi’r ffin fandyllog i mewn i Niger.

Mae dyfodiad al-Saadi yn debygol o gynyddu’r pwysau ar Niger i gydweithredu ag arweinwyr newydd Libya.