Stadiwm Wembley
Mae dyn wedi ymddangos o flaen llys heddiw wedi ei gyhuddo o ladd un o gefnogwyr Cymru y tu allan i Stadiwm Wembley.

Cafodd Ian Mytton ei gadw yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o ddynladdiad Michael Dye ar ôl ymddangos o flaen llys ynadon Redditch, yn Swydd Gaerwrangon.

Fe fu farw Michael Dye ar ôl dioddef ergyd i gefn ei ben cyn dechrau gêm Cymru yn erbyn Lloegr ddydd Mawrth diwethaf.

Siaradodd Ian Mytton, o Gateley Close, Redditch, er mwyn rhoi ei fanylion personol yn ystod y gwrandawiad.

Bydd rhaid iddo ymddangos o flaen Llys y Goron Caerwrangon ar 20 Medi.

Aethpwyd a Michael Dye, 44, oedd yn gefnogwr brwd i glwb pêl-droed Caerdydd, i Ysbyty Northwick Park ar ôl hollti ei benglog y tu allan i’r stadiwm tua 7.20pm.

Fe fu farw yn fuan ar ôl cyrraedd.

Cadarnhaodd Heddlu’r Met fod tri dyn arall gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’i farwolaeth wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedd y tri wedi mynd o’u gwirfodd i swyddfa Heddlu West Mercia neithiwr ac fe fydd rhaid iddynt ddychwelyd ym mis Tachwedd.