Lluniau'r rhai a fu farw (O wefan y ganolfan goffa)
Roedd yna filoedd o bobol ar y strydoedd yn Lower Manhattan ar gyfer gwasanaeth a seremoni i gofio ymosodiadau 9/11 ddeng mlynedd yn ôl.

Roedd y capel gyferbyn â safle dau dŵr Canolfan Fasnach y Byd wedi eu gorchuddio gyda rhubanau gwyn wrth i’r Arlywydd Barack Obama a’i ragflaenydd, George Bush, gymryd rhan yn y coffáu.

George Bush oedd mewn grym pan ddefnyddiodd mudiad terfysgol Al Qaida ddwy awyren i ymosod ar y tyrau, gan ladd 2753 o bobol yn Efrog Newydd.

Fe gafodd eu henwau nhw i gyd eu darllen yn y seremoni, ynghyd â’r 184 a fu farw mewn ymosodiad tebyg ar y Pentagon yn Washington a’r 40 a fu farw pan lwyddodd teithwyr i orfodi awyren arall i daro’r ddaear yn Pennsylvania.

Teithio o wledydd Prydain

Roedd teuluoedd tua 10 o’r 67 o ddinasyddion Prydeinig a laddwyd yn y digwyddiadau wedi teithio i’r Unol Daleithiau i gymryd rhan a’r disgwyl oedd y byddai tua 30 mewn gwasanaethau yng ngwledydd Prydain.

Fe gafwyd sawl munud o dawelwch i gofio’r gwahanol ddigwyddiadau, gan ddechrau am 1.46pm yn amser Cymru, pan drawodd yr awyren gyntaf.

  • Ond roedd yna brotestio hefyd, gyda tua 100 o wrthdystwyr yn galw sloganau y tu allan i lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain.