Mkoani - y lanfa lle byddai'r llong wedi dadlwytho
Fe gafodd mwy na 200 o gyrff eu tynnu o Gefnfor India wedi i long fferi suddo yn Zanzibar.

Mae 192 o’r cyrff eisoes wedi eu hawlio gan y teuluoedd ond mae 28 arall yn aros, meddai’r awdurdodau.

Y disgwyl yw y bydd nifer y meirw’n codi eto ar ôl y trychineb pan suddodd y llong gyda channoedd o bobol ar ei bwrdd.

Yr amheuaeth gynta’ yw fod llawer gormod o bobol ar y llong, yr MV Spcie Island, wrth iddi deithio o brif ynys Zanzibar, Unguja, i’r ail ynys, Pemba.

Y llongau fferi yw’r prif ddull o gysylltu rhwng y ddwy ynys a gyda thir mawr Tanzania yn nwyrain Affrica.

Fe fyddai’r llong wedi hwylio i mewn i’r unig borthladd o bwys ar Pemba,  Mkoani.