Y Pab Benedict XVI
Mae’r Pab Bened XVI wedi mynnu na ddylai trais gael ei gyflawni yn enw Duw wrth iddo nodi 10 mlynedd ers ymosodiad 9/11.

Mae’r Pab wedi anfon llythyr at yr Archesgob Timothy Dolan o Efrog Newydd y diwrnod cyn 11 Medi.

Dywedodd heddiw ei fod yn gweddïo dros y miloedd o ddioddefwyr dieuog fu farw o ganlyniad i’r “ymosodiad creulon”.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai teuluoedd yn cael rhywfaint o gysur wrth gofio’r rheini fu farw.

Roedd erchyllter y diwrnod wedi ei wneud yn waeth gan honiad yr ymosodwyr eu bod nhw’n gwneud gwaith Duw.

“Does dim byd yn gallu cyfiawnhau terfysgaeth,” meddai’r Pab.

Galwodd am “undod byd-eang” er mwyn datrys y cwynion arweiniodd at y trais yn y lle cyntaf.