Hewl yn Carson City
Cerddodd dyn i mewn i gaffi crempogau yn Nevada cyn saethu 12 person â dryll AK-47, gan ladd pedwar.
Dyw hi ddim yn amlwg beth oedd y tu ôl i’r ymosodiad, ond dywedodd teulu’r dyn ei fod yn dioddef o anhwylder meddwl.
Saethodd Eduardo Sencion, 32 oed, o Carson City, ei hun yn ei ben yn fuan wedi’r ymosodiad ac fe fu farw yn yr ysbyty.
Dywedodd Siryf Caros City, Kenny Furlong, fod y dyn wedi mynd i gefn y caffi International House of Pancakes cyn dechrau saethu’r cwsmeriaid.
Ar ôl gadael y bwyty, safodd yn y maes parcio a saethu i gyfeiriad busnes cyfagos, gan chwalu sawl ffenestr.
Cyrhaeddodd yr heddlu yn fuan wedyn a dod o hyd i’r saethwr yn gorwedd yn y maes parcio, wedi ei anafu.
Dywedodd llefarydd ar ran yr FBI nad oedd unrhyw awgrym o gynllwyn terfysgol.
Ychwanegodd cyfreithiwr y saethwr, Joe Laub, ei fod yn “ddyn addfwyn, cyfeillgar. Alla’i ddim deall pam fyddai wedi gwneud rhywbeth erchyll fel hyn”.