Llifogydd wedi corwynt Irene
Mae lefelau afonydd wedi dechrau gostwng yng ngogledd ddwyrain America, pedwar diwrnod wedi i Gorwynt Irene daro’r ardal.

Mae hynny wedi galluogi i griwiau achub gyrraedd trefi bychan yn Vermont a helpu’r bobol sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r llifogydd a’r gwynt cryf.

Mae cwmnïau yswiriant eisoes yn amcangyfrif fod y storm ymysg un o’r trychinebau naturiol drutaf i daro’r wlad.

Mae hofrenyddion wedi bod yn cario bwyd, blancedi a dŵr i drefi diarffordd yn y mynyddoedd sydd wedi colli trydan a heb fedru cysylltu â’r byd tu allan.

Mae 44 o bobol bellach wedi marw o ganlyniad i gorwynt Irene.

Ni chafodd y storm gymaint o effaith ar ddinas Efrog Newydd a’r disgwyl ond mae wedi achosi difrod sylweddol ymhellach i’r gogledd.

Mae talaith Vermont i’r gogledd wedi bod yn ymdopi â’r “lifogydd gwaethaf ers canrif”, meddai’r llywodraethwr yno.