Al-Saadi Gaddafi
Mae un o feibion Muammar Gaddafi wedi gofyn am gael ildio i’r gwrthryfelwyr, medden nhw.

Galwodd Al-Saadi Gaddafi bennaeth lluoedd arfog y gwrthryfelwyr, Abdel Hakim Belhaj, er mwyn dweud ei fod am roi’r ffidil yn y to.

Dywedodd Abdel Hakim Belhaj fod Al-Saadi Gaddafi wedi ei ffonio ddoe a gofyn a fyddai yn cael ei ddiogelu os oedd yn ildio i’r gwrthryfelwyr.

Cafodd wybod na fyddai yn cael ei anafu, ond y byddai rhaid iddo wynebu cyfiawnder am unrhyw droseddau.

Galwodd yn ôl yn ddiweddarach ond methodd Abdel Hakim Belhaj yr alwad.

“Dywedais i wrtho na ddylai boeni am ei fywyd. Fe fyddwn ni’n gwneud yn siŵr ei fod yn cael dy drin mewn modd trugarog,” meddai Abdel Hakim Belhaj.

“Mynnodd nad oedd wedi lladd unrhyw un ac na fyddai yn gwrthsefyll ewyllys y bobol.

“Fe atebais i ei fod yn bwysig peidio â thywallt rhagor o waed. Er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid i aelodau gweinyddiaeth Gaddafi ildio.”

Pe bai Al-Saadi Gaddafi yn ildio fe fyddai yn ergyd arall i weinyddiaeth Muammar Gaddafi.

Mae’r gwrthryfelwyr wedi bod yn agosáu at gadarnle olaf yr unben yn Sirte, gan obeithio y bydd gweddillion byddin  Gaddafi yn ildio yn hytrach na brwydro’n ôl.