Vince Cable
Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wedi rhybuddio na fydd y llywodraeth yn rhoi’r gorau i’w cynlluniau i ddiwygio’r banciau er gwaethaf yr argyfwng ariannol yn Ewrop.

Fe fydd y Comisiwn Annibynnol ar Fancio yn adrodd yn ôl ar 12 Medi a dywedodd Vince Cable fod y pryder y gallai rhai banciau chwalu “yn dangos fod angen mynd i’r afael â’r mater yma”.

Mae disgwyl y bydd comisiwn Syr John Vickers yn argymell gwahanu gweithredoedd adwerthol banciau a’u canghennau sy’n buddsoddi arian.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes ei fod yn “ffuantus” awgrymu y gallai diwygio’r banciau wneud niwed i’r adferiad economaidd.

Daw ei sylwadau wedi i gyfarwyddwr cyffredinol y CBI, John Cridland, a phrif weithredwr Cymdeithas Bancwyr Prydain, Angela Knight, ymosod ar y syniad.

Dywedodd John Cridland y byddai unrhyw ymdrech i ddiwygio’r banciau ynghanol argyfwng ariannol yn “wallgof”.

Ychwanegodd Angela Knight y gallai ostwng hyder ymysg bancwyr ac arwain at gwymp yn y marchnadoedd ariannol.

‘Aros cyn ymateb’

Ond dywedodd Vince Cable fod y banciau “yn codi bwganod er mwyn atal rhywbeth y maen nhw’n gwybod sy’n mynd i ddigwydd”.

“Mae llywodraethwr Banc Lloegr a sawl un arall wedi dadlau fod angen mynd i’r afael â’r broblem fod rhai banciau wedi tyfu yn rhy fawr.

“Mae’n amhosib cynnal banciau sy’n ymdrin â rhagor o arian na Chynnyrch Domestig Gros Prydain a disgwyl i’r trethdalwyr eu cynnal – mae’n amhosib a rhai datrys hyn.”

Dywedodd nad oedd yn pryderu y bydd yna chwalfa ariannol arall fel y digwyddodd yn 2008, ond yn hytrach y gallai economïau’r gorllewin arafu’n raddol.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, na fyddai yn penderfynu ar unrhyw beth nes bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.

“Bydd rhaid aros i gael gweld beth mae’r adroddiad yn ei ddweud cyn ymateb,” meddai.

“Y peth allweddol yw bod banciau yn benthyca unwaith eto er mwyn gallu cynnal twf a swyddi, a rhaid gwneud yn siŵr nad ydyn nhw’n peryglu swyddi.”