Milwyr ym Mhacistan
Mae bom car wedi ffrwydro yn ne-orllewin Pacistan heddiw gan ladd o leiaf pump o bobl.

Yn ôl y swyddog heddlu, Abdul Jamil, fe ddigwyddodd y ffrwydrad wrth i gannoedd o bobl adael mosg yn Quetta, Prif Ddinas talaith Baluchistan.

Roedd y dorf wedi darfod gweddïau boreol i nodi Eid al-Fitr, y gwyliau Islamaidd sy’n dod ar ddiwedd cyfnod ymprydio Ramadan.

Yn ôl y swyddog heddlu, mae o leiaf 15 o bobl wedi’u hanafu. Does dim un grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydrad eto.

Mae Baluchistan yn gartref i lawer o wrthryfelwyr  Taliban  a chenedlaetholwyr sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn y Llywodraeth ers degawdau.