Tripoli, Libya
Mae newyddiadurwyr o Brydain ymysg degau o dramorwyr sydd wedi eu caethiwo y tu mewn i westy yn Tripoli gan filwyr sy’n deyrngar i’r unben Muammar Gaddafi.

Dywedodd un o newyddiadurwyr y BBC fod y bobol sydd wedi eu caethiwo yn dechrau anobeithio wrth i fwyd fynd yn brin.

Mae milwyr arfog yn crwydro’r coridorau a does dim siawns o ddianc, meddai.

Roedd Matthew Price o’r gorfforaeth ymysg 35 o dramorwyr, gan gynnwys newyddiadurwyr a gwleidyddion, sy’n aros yn y gwesty.

Mae’r gwesty yng ngafael lluoedd Muammar Gaddafi er bod y rhan fwyaf o weddill y brifddinas, gan gynnwys canolfan Gaddafi, bellach yn nwylo’r gwrthryfelwyr.

Roedd Gaddafi wedi mynnu fod unrhyw newyddiadurwyr oedd am adrodd ar y rhyfel o Libya yn aros yn y gwesty.

“Mae yna 35 o bobol dramor yma ac rydyn ni’n dechrau anobeithio,” meddai Matthew Price wrth raglen Today Radio 4.

“Mae yna Brydeinwyr, Americanwyr… mae yna cyngreswr o’r Unol Daleithiau, a seneddwr o India yma.

“Fe waethygodd pethau dros nos ac mae yna bellach waharddiad arnom ni’n gadael y gwesty o’n gwirfodd.

“Mae dynion â drylliau yn crwydro’r coridorau. Rydyn i’n credu bod dynion ar nenfwd y gwesty yn saethu i lawr ac rydyn ni wedi ein caethiwo i bob pwrpas.

“Mae yna lawer iawn o bryder a nerfusrwydd ymysg y newyddiadurwyr sydd wedi eu cadw yma yn y gwesty.”