Mae’r Ddaear yn gartref i 8.7 miliwn o rywogaethau gwahanol, gan gynnwys anifeiliaid a phlanhigion, a dim ond ychydig iawn o’r rheini y mae gwyddonwyr yn gwybod amdanynt.

Penderfynodd gwyddonwyr ar y ffigwr ar ôl mabwysiadu ffordd newydd o fesur niferoedd rhywogaethau creaduriaid.

Roedd amcangyfrifon yn y gorffennol wedi dyfalu fod rhwng tair a 100 miliwn o rywogaethau gwahanol.

Yn ôl yr ymchwil mae yna 6.5 miliwn o rywogaethau yn byw ar y tir a 2.2 miliwn yn y môr.

Ond dywedodd y gwyddonwyr nad ydyn nhw eto wedi cofnodi 86% o’r creaduriaid sy’n byw ar y tir, a 91% o’r rheini sy’n byw yn y môr.

“Mae’r pos yma wedi diddori gwyddonwyr ers canrifoedd ond mae’n arbennig o bwysig nawr oherwydd effaith gweithgaredd dynol ar greaduriaid y byd,” meddai  Dr Camilo Mora o Brifysgol Hawaii.

“Mae’n bosib y bydd llawer iawn o rywogaethau gwahanol yn diflannu cyn ein bod ni’n gwybod eu bod nhw’n bodoli hyd yn oed.”

Dyfeisiodd y gwyddonydd o Sweden, Carl Linnaeus, system er mwyn enwi a disgrifio rhywogaethau gwahanol yn 1758.

Yn y 253 mlynedd ers hynny mae tua 1.2 miliwn o rywogaethau gwahanol, gan gynnwys tua miliwn ar y tir a 250,000 yn y moroedd, wedi eu cofnodi.