Brendan Rodgers
Mae Brendan Rodgers wedi dweud y bydd rhai chwaraewyr yn colli eu lle yn y tîm cyntaf ar ôl i Abertawe golli eu lle yng Nghwpan Carling neithiwr.
Cafodd yr Elyrch eu maeddu 3-1 gan Amwythig, sy’n chwarae ym mhedwerydd cynghrair Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.
Fe aeth Abertawe ar y blaen ar ôl i un o chwaraewyr Amwythig daro’r bêl i gefn y rhwyd drwy gamgymeriad, ond o hynny ymlaen roedd y dref ar y ffin mewn rheolaeth lwyr.
Dywedodd hyfforddwr Abertawe ei fod yn gandryll â’r perfformiad a’i fod yn bwriadu galw sawl chwaraewr oedd heb fod ar y cae yn ôl i mewn.
“Mae rhai ohonyn nhw wedi anfon neges glir – sef ‘peidiwch â fy newis i’,” meddai.
“Bydd rhai ohonyn nhw’n cyrraedd y bws a meddwl nad oes angen pryderu am y gêm. Dydw i ddim yn teimlo fel yna. Rydw i eisiau ennill bob gêm.
“Dydw i ddim yn gwybod a oedden nhw’n teimlo nad oedd y gêm ddigon pwysig. Pwy a ŵyr?
“Ond roedd gennym ni chwaraewyr rhyngwladol yn ein tîm ni, a digon o brofiad. Doedd y gêm ddim yn ddigon da.
“Fe ddywedais i cyn y gêm fod timau da yn cael eu bwrw allan o gystadlaethau fel hyn am nad ydyn nhw’n gwneud eu gorau glas. Ni oedd y tîm hwnnw.
“Rydw i wedi dweud wrth y chwaraewyr fod rhaid iddyn nhw gofio’r diwrnod yma. Fe gawn frolio wrth eu hwyrion eu bod nhw wedi chwarae cystal yn erbyn Man City a Wigan.
“Ond bydd rhaid iddyn nhw hefyd ddweud eu bod nhw wedi colli yn erbyn yr Amwythig. Dyna’r gwirionedd.
“Dyma fy noson fwyaf siomedig ers mynd i fyd pêl-droed.”