Bala 2 – 0 Caerfyrddin
Trechodd Y Bala Gaerfyrddin 2-0 ar Faes Tegid o flaen camerâu Sgorio bnawn Sadwrn gan olygu eu bod bellach wedi codi i’r ail safle yn y gynghrair.
Ar y llaw arall, mae’r canlyniad yn golygu bod Caerfyrddin yn llechu tua gwaelod y tabl wedi dwy golled yn eu dwy gêm gyntaf.
Roedd y Bala’n awyddus i adeiladu ar ddechreuad da i’r tymor wedi llwyddo i gipio pwynt yn erbyn y Seintiau Newydd, tra’r oedd Caerfyrddin angen diwygio wedi colled siomedig gartref yn erbyn y Drenewydd ar y penwythnos cyntaf.
Fe all Caerfyrddin ystyried eu hunain yn hynod anffodus i beidio â chael rhywbeth o’r gêm hon. Fe grëwyd nifer o gyfleoedd gwych; rheolwyd y meddiant am ran sylweddol o’r gêm ond fe gafwyd penderfyniad dadleuol gan y dyfarnwr i wobrwyo cic o’r smotyn i’r Bala yn fuan wedi’r toriad.
Lwcus, ond yn haeddu rhywbeth
Cyfaddefa Colin Caton, rheolwr y Bala eu bod wedi bod ychydig yn lwcus i gipio’r pwyntiau.
“Doedden ni ddim yn haeddu ennill i ddweud y gwir, neu o leiaf, roeddem ni’n lwcus ei bod hi dal yn gyfartal ar hanner amser” meddai Caton wrth Golwg360.
“Fe wnaeth ein golwr ni nifer o arbediadau da, achos fe gafodd Caerfyrddin amryw o gyfleoedd gwych, ac fe ddylent fod wedi mynd ar y blaen. Wnaethom ni ddim chwarae ddigon da yn yr hanner cyntaf o gwbl.”
Wedi dweud hynny, roedd y rheolwr yn falch o ymrwymiad ei chwaraewyr.
“Fe wnaeth yr hogia ymateb yn dda yn yr ail hanner a lleihau’r camgymeriadau. O ystyried perfformiad yr ail hanner, dwi’n meddwl ein bod ni wedi haeddu rhywbeth o’r gêm.”
Methu manteisio
Yr ymwelwyr, ddaeth agosaf at sgorio yn gyntaf wrth i gic rydd gael ei chwipio i ganol y cwrt, ond fe gafodd ei phenio heibio’r postyn.
Cafodd Mark Jones gêm nodedig i’r Bala, ac ef oedd y cyntaf i fygwth gôl Caerfyrddin. Llwyddodd i greu lle i’w hun yn y cwrt ac ergydio’n ffyrnig gyda’i droed chwith, ond fe wnaeth Mike Lewis yn wych i’w chadw allan gydag arbediad medrus.
Dim ond un cynnig arall amlwg gafodd y Bala trwy gydol yr hanner cyntaf wrth i Chris Mason benio dros y trawst. Caerfyrddin gafodd y gorau o gyfleoedd yr hanner cyntaf felly, ond fe fu Jack Christopher yn esgeulus gyda’i ymdrechion ar ddau achlysur.
Penderfyniad dadleuol
Wedi pedair munud o’r ail hanner, fe gafodd y Bala gic o’r smotyn dadleuol. Aeth Nicky Palmer i daclo Mark Jones gyda’i stydiau’n dangos, ond doedd dim cyffyrddiad amlwg rhwng y ddau.
Cadwodd Jones y bêl a pharhau gyda’i rediad, ond fe chwibanodd y dyfarnwr, Bryn Markham-Jones a phwyntio at y smotyn. Hawliodd Mark Connolly y ddyletswydd o’i chymryd, ac fe osododd y bêl yn daclus yng nghornel y rhwyd.
Roedd Colin Caton yn barod i gydnabod fod y penderfyniad hwnnw wedi bod yn un ychydig yn anghyfiawn.
“Roedd y gic o’r smotyn braidd yn llym arnyn nhw,” meddai.
“Petai’r penderfyniad yna wedi mynd yn ein herbyn ni, fyddwn i wedi bod yn gandryll, ond dyna ni, fel ‘na mae hi. Y tymor diwethaf, gawsom ni ddim lwc o gwbl, felly efallai ei bod hi’n dro i ni fod yn ffodus.”
Bala’n rheoli
Gwnaeth Caerfyrddin eu gorau glas i ddod â’r sgôr yn gyfartal wrth i Cledan Davies ergydio tuag at Terry McCormick, ond fe arbedodd hwnnw’n gadarn.
Tarodd y Bala bostyn wedi awr wrth iddynt gychwyn rheoli’r gêm, ac fe ddaeth yr ail gôl i selio’r fuddugoliaeth gydag 20 munud yn weddill o’r 90 wrth i Chris Mason rwydo o brin ddwy lath wedi i ergyd Stephen Brown adlamu’n ôl oddi ar Mike Lewis.
Methodd Caerfyrddin a gwneud llawer o argraff drwy gydol gweddill yr ornest er eu hymdrech a’u dyfalbarhad, ac fe fydd rhaid iddynt obeithio am well yn eu gêm gartref nesaf yn erbyn Tref Port Talbot – a gurodd y Seintiau Newydd o 2-1 ddydd Sadwrn.
Cynghrair galed
Oddi cartref yn y Drenewydd fydd y Bala. Ac fe fyddent yn ceisio efelychu eu perfformiadau diweddar er mwyn aros tua brig y gynghrair. Ond mae’r rheolwr yn parhau i fod yn realistig am y gêm nesaf ac am obeithion y clwb yn gyffredinol.
“Bydd y Drenewydd yn gêm anodd arall. Fel mae pob gêm yn y gynghrair yma’n galed. Rhaid i chi fod ar eich gorau bob tro neu mae’r timau yma yn mynd i wneud i chi dalu,” meddai Colin Caton.
“Fe wnaethom golli yn eu herbyn nhw ddwywaith y tymor diwethaf, felly rydan ni’n gwybod y bydd hi’n her. Maen nhw wedi ennill un a cholli un gêm hyd yn hyn.”
“Roeddem ni’n cystadlu yn erbyn y timau mawr i gyd y tymor diwethaf hefyd. Roeddem ni’n rheoli meddiant ond yn cael ein cosbi am gamgymeriadau. Rhaid i ni jyst cymryd un gêm ar y tro.”
Carfannau
Tref Y Bala
Terry McCormick, John Irving (Danny Williams 70′), Steff Edwards, Stuart Jones, Michael Byron, Conall Murtagh, Mark Connolly, Mark Jones, Chris Mason (Ross Jefferies 90′), Liam Loughlin (Steve Brown 57′), Peter Doran
Tref Caerfyrddin
Mike Lewis, Lewis Jones, Kyle Graves, Richard Hughes, Steve Berry (Lee Bevan 74′), Kieran Howard, Cledan Davies (Corey Thomas 74′), Tim Hicks (Steff Williams 83′), Nick Harrhy, Jack Christopher, Nicky Palmer