Brendan Rodgers
Bydd pedwar clwb pêl-droed mwyaf Cymru yn chwarae heno.
Bydd Abertawe a Chaerdydd yn cystadlu yn ail rownd Cwpan Carling, tra bod Wrecsam a Chasnewydd yn parhau gyda’u hymgyrchoedd yng nghynghrair Blue Square.
Cwpan Carling
Abertawe v Yr Amwythig
Dyma’r 46fed tro iddynt wynebu ei gilydd ond dydyn nhw erioed wedi chwarae ei gilydd yng Nghwpan y Gynghrair.
Dyw’r Amwythig heb fynd heibio i’r ail rownd ers 1993, ond fe gafodd Abertawe un o’u rhediadau gorau erioed yn y gystadleuaeth y llynedd wrth iddynt gyrraedd y bedwaredd rownd.
Gall rheolwr yr Amwythig roi lle i’r Cymro Tom Bradshaw, gynt o glwb pêl-droed Aberystwyth, yn ei garfan ar gyfer y gêm, wrth i’r ymosodwr barhau i adfer wedi anafu i’w ben glin.
Bu Bradshaw yn ddisgybl yn ysgol Penglais Aberystwyth ac fe arwyddodd i’r Amwythig yn 2009.
Mae golwr newydd Abertawe, Jose Moreira, yn mynd i gael ei gyfle cyntaf i chwarae, tra bod Joe Allen a Mark Gower yn debygol o gychwyn yng nghanol cae.
Mae Brendan Rodgers yn gorffwys Angel Rangel a Wayne Routledge, ac mae’r capten Garry Monk allan gydag anaf i’w droed.
Yn y cyfamser, mae Nathan Dyer wedi arwyddo cytundeb estynedig i aros gyda’r Elyrch am dair blynedd arall.
Mae’r asgellwr wedi ymuno â chriw o chwaraewyr Abertawe, gan cynnwys Ashley Williams, Angel Rangel, Joe Allen a Garry Monk, sydd wedi arwyddo cytundebau newydd yn ddiweddar.
Bu Dyer yn llwyddiant ysgubol gyda’r Elyrch y tymor diwethaf wrth iddynt ennill dyrchafiad i’r Uwch gynghrair. Enwebwyd ef yn chwaraewr y tymor gan gefnogwyr y clwb, er bod Scott Sinclair wedi sgorio 27 o goliau.
Caerdydd v Huddersfield
Mae disgwyl i reolwr Caerdydd, Malky Mackay roi cyfle i’r ymosodwr Ffrengig, Rudy Gestede yn y gêm heno. Dyma fydda y tro gyntaf iddo gychwyn gêm gartref i’w glwb newydd.
Mae amheuon am ffitrwydd dau o chwaraewyr Huddersfield, Gary Roberts a Gary Naysmith, ill dau gydag anafiadau i’w ffêr.
Llwyddodd Caerdydd i gyrraedd rownd gynderfynol y gwpan yn ôl yn 1966, ac maent yn anelu am gyrraedd y drydedd rownd am y chweched tro mewn wyth mlynedd. Trechwyd hwy yn y rownd yma’r llynedd gan Peterborough.
Cyrhaeddodd Huddersfield y rowndiau cyn derfynol yn1968 ond dydyn nhw heb lwyddo i basio’r rownd yma mewn wyth mlynedd.
Uwch Gynghrair Blue Square
Wrecsam v Tamworth
Wedi dechreuad gwych i’r tymor a 7 pwynt o 9 yn eu tair gêm gyntaf, mae Wrecsam yn ail yn y gynghrair ac yn llawn hyder, er gwaethaf eu holl drafferthion diweddar oddi ar faes y chwarae.
Mae’r mwyafrif o garfan Dean Saunders yn holliach. Yr amddiffynnwr, Curtis Obeng yw’r unig amheuaeth ar gyfer gêm heno, ond fe fydd ei ffitrwydd yn cael ei asesu heddiw.
Mae Nathaniel Knight-Percival ar gael er iddo anafu ei law ar ddydd Sadwrn yn eu buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Dinas Lincoln.
Casnewydd v Ebbsfleet United
Mae Casnewydd yn eistedd yng nghanol y tabl ar hyn o bryd gyda 4 pwynt o’u tair gêm gyntaf, ond maent yn wynebu Ebbsfleet sydd a chanddynt ond un pwynt o’u tair gêm hwy.
Bydd capten Casnewydd, Gary Warren, ar gael am y tro cyntaf y tymor hwn wedi iddo ddychwelyd o gystadlu ar ran tîm pêl-droed Prydain yng ngemau myfyrwyr y byd yn Tsieina.
Yr ymosodwr, Darryl Knight, yw’r unig un fydd yn absennol gydag anaf i’w ben glin.