Julia Gillard
Mae Aelod Seneddol yn Awstralia wedi ei gyhuddo o ddefnyddio cerdyn credyd swyddogol i dalu am buteiniaid.

Mae yna bryder y gallai’r sgandal ddymchwel llywodraeth fregus y Prif Weinidog Julia Gillard, sydd o’r Barri yn wreiddiol.

Pe bai yn euog o ddwyn neu dwyllo fe fyddai yn rhaid i’r Aelod Seneddol, Craig Thomson, adael y senedd.

Dim ond mwyafrif o un AS sydd gan lywodraeth Julia Gillard, wedi iddi ennill etholiad cyffredinol o drwch blewyn flwyddyn yn ôl.

Mae Heddlu New South Wales wedi dweud eu bod nhw’n ystyried tystiolaeth newydd sy’n awgrymu fod Craig Thomson wedi camddefnyddio cerdyn credyd undeb llafur pan oedd yn uwch swyddog yn 2005 a 2007.

Mae wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le ac mae Julia Gillard wedi cefnogi’r Aelod Seneddol a gafodd ei ethol yn 2007.