Todd Green cyn neidio (llun o'r Detroit Free Press)
Mae dyn wedi marw ar ôl disgyn tua 200 troedfedd o awyren mewn sioe awyrennau yn nhalaith Michigan.

Roedd Todd Green yn ceisio neidio o adain yr awyren i hofrennydd pan syrthiodd yn nhref Harrison, tua 20 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Detroit.

Dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Awyr Gwarchodlu Cenedlaethol Selfridge, Dan Heaton, fod y ddamwain wedi digwydd tua 1.30pm.

Aethpwyd a’r dyn mewn ambiwlans i Ganolfan Feddygol Mount Clemens ond fe fu farw o’i anafiadau.