Mae gwyddonwyr yn Awstralia wedi dod o hyd i’r ffosilau hynaf erioed.

Mae’r ffosilau yn dyddio’n ôl 3.4 biliwn o flynyddoedd, i gyfnod pan oedd bacteria yn goroesi ar blaned heb ocsigen.

“O’r diwedd mae gennym ni dystiolaeth gadarn fod bywyd wedi dechrau ar y Ddaear 3.4 biliwn o flynyddoedd yn ôl,” meddai’r Athro Martin Brasier o Brifysgol Rhydychen.

“Mae’n cadarnhau fod bacteria yn bodoli bryd hynny oedd yn byw heb ocsigen.”

Bryd hynny roedd y ddaear yn lle poeth, tymhestlog oedd wedi ei orchuddio gan losgfynyddoedd.

Roedd cymylau trwchus yn llenwi’r awyr, gan gynhesu’r ddaear a gwneud y môr yr un mor gynnes â bath poeth.

Ychydig iawn o dir oedd yn codi uwchben lefel y môr, ac roedd yr ynysoedd rheini tua’r un maint ag ynysoedd y Caribî.

Roedd y bacteria cynnar yn byw ar sylffwr yn hytrach nag ocsigen, yn ôl cylchgrawn Nature Geoscience sydd wedi cyhoeddi’r darganfyddiadau.

“Mae’r bacteria yma yn parhau i fodoli heddiw,” meddai Martin Brasier.

“Mae modd dod o hyd i facteria sylffwr mewn pridd, ffynhonnau cynnes, fentiau hydrothermol – unrhyw le nad oes yna lawer iawn o ocsigen.”

Dywedodd ei fod yn bosib y bydd y darganfyddiad yn cael effaith ar y ffordd y maen nhw’n chwilio am fywyd ar blanedau eraill.

“Fe allai bacteria fel yma fyw ar y blaned Mawrth,” meddai.