Muammar Gaddafi
“Ychydig oriau” sydd gan Muammar Gaddafi ar ôl yn unben ar Libya wrth i wrthryfelwyr feddiannu’r brifddinas, Tripoli.

Roedd gwrthryfelwyr wedi cyrraedd prif sgwâr y ddinas ac wedi dathlu gyda thrigolion yno dros nos.

Dywedodd llysgennad Libya i’r Cenhedloedd Unedig mai “dyma’r diwedd” ac y byddai Muammar Gaddafi wedi ei ddisodli “o fewn ychydig oriau”.

Ymosododd y gwrthryfelwyr o’r gorllewin, ond ar ôl cipio canolfan filwrol yno ychydig iawn o frwydro a welodd y ddinas ei hun.

Er bod saethu i’w glywed mewn rhai rhannau o’r ddinas, roedd torf yn cymeradwyo yn y Maes Gwyrdd.

Roedden nhw’n chwifio fflag Libya ac yn llosgi banner werdd Muammar Gaddafi.

Maen nhw eisoes wedi cipio mab hynaf Muammar Gaddafi, Saif al-Islam Gaddafi, ac mae’r llys troseddol rhyngwladol wedi dweud y byddwn nhw’n gwneud cais i’w drosglwyddo.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwrthryfelwyr fod un arall o feibion Gaddafi, Mohammed, wedi cysylltu â nhw gan ofyn am gael ei gadw’n ddiogel.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud mai “dyma’r diwedd” i’r unben Gaddafi.

“Mae’n amlwg erbyn hyn mai dyma’r diwedd i Gaddafi,” meddai llefarydd ar ran 10 Stryd Downing.

“Mae wedi cyflawni troseddau erchyll yn erbyn pobol Libya ac mae’n rhaid iddo fynd nawr fel nad yw ei bobol yn dioddef ymhellach.”