Mae dynes wedi marw ar ôl disgyn o Raeadr Niagra.
Dywedodd Heddlu Parc Niagra yn Ontario, Canada fod dwy fyfyrwraig yn eu 20au o Toronto yn ymweld â’r rhaeadr pan ddigwyddodd y ddamwain.
Roedd un ohonyn nhw wedi dringo piler a bongamu’r rheiliau.
Safodd i fyny a disgyn i mewn i’r afon tua 80 troedfedd o ymyl y rhaeadr ar ochor Canada.
Llusgwyd ymlaen gan y cerrynt nerthol a’i gollwng dros ymyl y rhaeadr.