Tripoli, Libya
Mae gwrthryfelwyr Libya wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu meddiannau’r brifddinas Tripoli erbyn diwedd y mis.
Maen nhw’n honni eu bod nhw wedi llwyddo i dorri dau lwybr masnachol i’r brifddinas ar ôl cipio rhagor o drefi yng ngorllewin y wlad.
Yn ystod y dyddiau diwethaf maen nhw hefyd wedi bod yn brwydro yn erbyn lluoedd arfog llywodraeth y wlad am ddinas Zawiya, 30 milltir yn unig o’r brifddinas.
Mae’r gwrthryfelwyr wedi ennill llawer iawn o dir dros y dyddiau diwethaf, ar ôl mis o ddiffyg cynnydd.
Dywedodd y Cyrnol Jumma Ibrahim fod y gwrthryfelwyr yn gobeithio atal unrhyw fwyd, tanwydd ac arfau rhag cyrraedd y brifddinas.
“Mae hynny’n golygu ein bod ni’n tagu Gaddafi,” meddai. “Dim ond y môr sydd ganddo ar ôl.”
Dywedodd fod y gwrthryfelwyr wedi cipio Gharyan, 50 milltir o Tripoli, sy’n rheoli’r llwybr masnachol o dde’r wlad i’r brifddinas.
Ychwanegodd fod y gwrthryfelwyr hefyd wedi meddiannu tai ar hyd y llwybr masnachol o’r ffin â Thunisia i Tripoli.
Mae’r llwybr yn mynd drwy Zawiya, ac fe fyddai modd i’r gwrthryfelwyr ei atal yn llwybr pe baen nhw’n gallu meddiannu’r ddinas honno.