Silvio Berlusconi - pecyn rhy hallt sy'n ymosod ar y dosbarth canol
Mae arweinydd undeb mwya’r Eidal yn bygwth gweithredu diwydiannol er mwyn protestio’n erbyn pecyn torri’n ôl gan lywodraeth Silvio Berlusconi sydd wedi ei ruthro trwodd er mwyn balansio’r llyfrau erbyn 2013.
Fe ddaeth cyhoeddiad yr undeb yn dilyn mwy a mwy o gwyno ynglyn â’r pecyn o doriadau 45.5bn ewro (£39.8bn) a gafodd ei basio ddydd Gwener mewn ymateb i orchymyn gan Fanc Canolog Ewrop (yr ECB).
Mae beirniaid yn honni y bydd y pecyn – sy’n gyfuniad o doriadau, diswyddiadau a chynnydd mewn trethi – yn crogi’r Eidal. Mae beirniaid eraill yn dweud bod y pecyn yn targedu’n annheg ddosbarth canol y wlad, a’i fod yn methu â mynd i’r afael â’r broblem go iawn, sef bod niferoedd mawr o bobol gefnog yn osgoi talu treth.
Mae Susanna Camusso, arweinydd yr undeb llafur CGIL yn dweud mai cynnal streic yw’r unig ffordd o “newid anghyfartaledd y pecyn hwn”. Fe fydd swyddogion yr undeb yn cyfarfod ar Awst 23 i drafod y camau nesa’.
Mae o leia’ un undeb arall, y CISL, eisoes wedi dweud na fydd ei aelodau’n cymryd rhan mewn streic, er ei fod yn cytuno bod angen cryfhau’r pecyn.