Anders Breivik
Mae’r dyn o Norwy sydd wedi cyfadde’ lladd 69 o bobol yn Oslo, wedi bod yn ail-droedio ei lwybr y diwrnod hwnnw.

Fe aeth yr heddlu gydag Anders Behring Breivik yn ôl i ynys Utoya ger y brifddinas ddoe, fel rhan o’r gwrandawiad ar y saethu a’r lladd a ddigwyddodd ar Orffennaf 22.

Mae Anders Behring Breivik wedi ei gyhuddo o saethu’n farw bobol ifanc oedd yn cymryd rhan mewn gwersyll gwleidyddol ar yr ynys, wedi iddo yn gynta’ ladd wyth o bobol yng nghanol Oslo trwy ffrwydro bom ger swyddfeydd y llywodraeth.

Fe\ddisgrifiodd y gwr 32 mlwydd oed y lladd mewn manylder, yn ystod taith wyth awr o gwmpas yr ynys. Er nad yw’n edifar am ei weithredoedd, meddai’r barnwr, fe ddangosodd nad oedd yn hollol ddideimlad chwaith.

Mae twrnai Breivik wedi cyhoeddi ei fod yn cyfadde’ i’r lladd, ond ei fod yn gwrthod yr honiad o ymosod yn derfysgol ar Norwy oherwydd ei fod yn credu ei fod yn gwneud ffafr â’r wlad trwy ei diogelu rhag Mwslimiaid a thrwy godi cywilydd ar wleidyddion sydd wedi eistedd yn ôl a gadael i’r wlad droi’n un aml-ddiwylliannol.

Mae’n wynebu cyfnod o 21 mlynedd dan glo os y caiff ei ddyfarnu’n euog o derfysgaeth. Mae’n bosib y gallai dreulio gweddill ei oes dan glo.