Barack Obama - am i China fod yn fwy tryloyw ynglyn â'i gallu milwrol
Lai nag wythnos wedi i China lawnsio ei llong gyntaf sy’n cario awyrennau, mae’r Unol Daleithiau wedi dadorchuddio ei ‘supercarrier’ newydd sbon i Fietnam – un o’r cenhedloedd bychain yn Asia sy’n poeni am rym milwrol China.
Ddydd Mercher, fe lawnsiodd China ei llong fawr gyntaf – llong a oedd yn arfer bod yn eiddo i’r Undeb Sofietaidd ond sydd wedi ei hadnewyddu’n llwyr dros y degawd diwetha’ er mwyn hyfforddi morwyr China.
Fe fydd hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer gwneud gwaith ymchwil, meddai China.
Mae’r Unol Daleithiau wedi gofyn i’r wlad fod yn “fwy tryloyw” ynglyn â’i gallu milwrol