Aberhonddu
Mae trefnwyr Gŵyl Jazz Aberhonddu wedi amddiffyn eu rhaglen eleni, wedi i Gyfarwyddwr Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru feirniadu’r ŵyl ar y wefan hon, gan ddweud nad oes lle teilwng i gerddorion o Gymru yn Aberhonddu.

“Yn sicr, rydan ni wedi bod yn gwthio’r holl berfformiadau o Gymru gymaint â phosibl,” meddai llefarydd ar ran Gŵyl y Gelli, y cwmni sy’n trefnu Gwyl Jazz Aberhonddu, wrth Golwg360.

Er nad oedd y llefarydd yn gyfrifol am raglen yr ŵyl, dywedodd bod “llawer o gerddorion o Gymru”  ar y rhaglen, “mae gyda ni Gareth Bonello a’r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol a Emily Wright sydd wedi ei hyfforddi yng Nghymru”.

“Mae’n ŵyl sydd yn sicr yn dathlu cerddoriaeth Gymreig,” meddai’r llefarydd wedyn. “Ond, mae hefyd yn ŵyl arloesol sy’n denu perfformwyr amgylch y byd i Gymru. Rhan ohono yw dod a’r perfformwyr mawr yma  i Gymru i bobl weld yma.

“Mae’n bwysig iawn rhoi platfform i gerddorion o Gymru hefyd – ond rydan awyddus iawn hefyd i gael pobl yma i roi cyfle i bobl weld perfformwyr dydyn nhw heb ei weld o’r blaen hefyd. Perfformwyr arloesol ac addawol.”

Y feirniadaeth

“O’i gymharu â Gŵyl Jazz Ryngwladol Cork yn Iwerddon sydd wir yn cefnogi eu perfformwyr eu hunain – maen nhw wastad yn cynnwys llawer o berfformwyr Jazz o Iwerddon – dyw Aberhonddu ddim fel petai nhw’n  gwneud hynny o gwbl,” meddai Maureen Hopkins, Cyfarwyddwr Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n ofnadwy o bwysig eu bod nhw’n rhoi cyfleoedd i berfformwyr o Gymru oherwydd mae cerrdorion Jazz yn cael bywyd caled iawn.

“Mae mwy a mwy o safleoedd Jazz yn cau lawr. Mae Jazz yn ddiddordeb lleiafrifol, mae’n gelfyddyd ac fel llawer o’r celfyddydau, mae wastad am fod yn ddiddordeb lleiafrifol.

“Yn syml, does dim digon o safleoedd i gerddorion Jazz yng Nghymru chwarae ynddyn nhw.”