Nicolas Sarkozy
Mae un arall o arweinwyr Ewrop wedi cyhoeddi y bydd yn dychwelyd o’i wyliau’n gynnar er mwyn mynd i’r afael â phroblemau gartref.

Cyhoeddodd Arlywydd Ffrainc Nicolas Sarkozy y bore ma ei fod yn dychwelyd o’i wyliau er mwyn cynnal cyfarfod brys ynglŷn ag argyfwng ariannol parth yr ewro.

Dywedodd y byddai’n cwrdd â phenaethiaid economaidd Ffrainc ym mhalas arlywyddol yr Elysee.

Bydd y Gweinidog Ariannol Francois Baroin, Gweinidog y Gyllideb Valerie Pecresse, y Gweinidog Tramor Alain Juppe, a’r Gweinidog Ewropeaidd Jean Leonetti yn rhan o’r trafodaethau.

Mae Nicolas Sarkozy a rhai arweinwyr eraill Ewrop wedi eu beirniadu am barhau ar eu gwyliau wrth i farchnadoedd ariannol Ewrop blymio.

Roedd yr arlywydd wedi bod yn mwynhau gwyliau ar y Côte-d’Azur yn gynharach yn yr wythnos.