Llongau De Korea
Mae llynges De Korea wedi taro’n ôl wedi i daflegrau o Ogledd Korea lanio gerllaw’r llinell forwrol ddadleuol sy’n rhannu’r ddwy wlad.

Saethodd De Korea yn ôl wedi i Ogledd Korea saethu tair gwaith i gyfeiriad ffin y Môr Melyn, meddai’r swyddog amddiffyn Kim Min-seok.

Mae lluoedd De Korea wedi bod yn cadw golwg ar yr ardal ers ymosodiad gan Ogledd Korea ladd pedwar o bobol ar ynys Yeonpyeong ym mis Tachwedd.

Roedd y taflegrau a saethwyd heddiw yn agos iawn at yr ynys honno.

Mae tri achos difrifol o wrthdaro rhwng llongau’r ddwy wlad wedi digwydd ers 1999, gan ladd dwsinau o bobol.

Cafodd y llinell sy’n rhannu’r ddwy wlad ei gosod ar ddiwedd Rhyfel Korea yn 1953 – ond mae’r ddwy wlad yn parhau i anghytuno hyd heddiw.

Mae Gogledd Korea yn dadlau y dylai’r ffin fod ymhellach i’r de, ond mae Seoul yn poeni y byddai derbyn y fath ffin yn peryglu’r diwydiant pysgota o gwmpas pum ynys yn Ne Korea, ac yn atal mynediad i borthladd Incheon.