Marchnad Stoc (PA)
Agorodd marchnadoedd stoc Asia i lawr bore ma yn sgil diwrnod digon digalon i’r Unol Daleithiau ag Ewrop.
Syrthiodd Dow Jones yr Unol Daleithiau 634.76 pwynt – un o’r dyddiau gwaethaf yn hanes 112 mlynedd y Dow, a’r cwymp undydd mwyaf ers mis Rhagfyr 2008.
Syrthiodd FTSE 100 Prydain mwy na 100 pwynt am y pedwerydd dydd yn olynol – y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn ei hanes 27 mlynedd.
Daw’r chwalfa oherwydd pryderon nad yw economi’r Unol Daleithiau yn tyfu, a phenderfyniad asiantaeth Standard & Poor i ostwng sgôr credit y wlad o AAA.
Mae yna hefyd bryder am allu gwledydd yr ewro i dalu eu dyledion, a sut y bydd marchnadoedd Asia yn goroesi heb eu cwsmeriaid yn y gorllewin.
“Pryder am dwf sydd wedi dychryn y marchnadoedd,” meddai Kathleen Gaffney, cyn-reolwr cronfa $20 biliwn Loomis Sayles.
“Mae’r farchnad dan lawer iawn o bwysau sydd heb gymaint â hynny i’w wneud â phenderfyniad Standard & Poor.
“Dyw hi ddim yn amlwg sut y mae Ewrop a’r Unol Daleithiau yn mynd i allu talu eu dyledion os yw twf yn parhau’n araf.”
Dywedodd Thomas Simons, economegydd cyllidol Jefferies & Co, fod masnachwyr eisiau rhoi eu harian mewn lle saff.
“Mae arian wedi llifo o’r stociau i mewn i’r Trysorlysoedd,” meddai. “Mae pobol eisiau cadw eu harian mewn lle saff am y tro.”
Syrthiodd prisiau olew, nwy a nwyddau eraill yn llym yn sgil pryderon y byddai economi fyd-eang gwan yn arwain at lai o alw.
Syrthiodd pris olew 6.4% i $83.31 y faril.
“Y pryder yw y bydd yn troi yn gylch dieflig ac y bydd cwsmeriaid yn rhoi’r gorau i brynu am eu bod nhw’n gweld yr holl ansicrwydd,” meddai Dimitre Genov, uwch-rwolwr Artio Global Investors.