Y Ddins yn Llundin
Mae penaethiaid Banc Canolog Ewrop wedi bod yn cynnal cynhadledd frys tros y ffôn yn y gobaith o atal y chwalfa yn y marchnadoedd arian.

Y disgwyl yw y byddan nhw’n cytuno i brynu rhai o fondiau Llywodraeth yr Eidal er mwyn ceisio rhwystro’r cynnydd mawr mewn cyfraddau llog yno.

Maen nhw’n ofni y bydd buddsoddwyr yn parhau i gael gwared ar siariau gan ychwanegu at y cwymp o 10% a fu ym mhris cyfrannau ar y farchnad yn Llundain yn ystod yr wythnos ddiwetha’.

Y pryder yw y bydd trafferthion gwledydd fel Groeg ac Iwerddon yn lledu i economïau mwy, fel rhai’r Eidal a Sbaen.

Mae ofn hefyd nad yw’r Unol Daleithiau’n gwneud digon i reoli’i dyledion hithau.