Paaul Flynn
Mae Llywodraeth Prydain yn dweud y byddan nhw’n cario ymlaen i ymladd yn Afghanistan, er gwaetha’ rhybuddion Aelod Seneddol o Gymru.

Fe allai’r ymosodiad ar hofrennydd a laddodd 38 o luoedd yr Unol Daleithiau ac Afghanistan fod yn ddechrau ar ddiwedd y rhyfel yno, meddai AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn.

Gydag amheuaeth cry’ mai milwyr y Taliban oedd wedi saethu’r hofrennydd, roedd yr AS, sy’n ymgyrchydd amlwg yn erbyn y rhyfel, yn rhybuddio mai digwyddiadau o’r fath a anfonodd yr Undeb Sofietaidd o’r wlad yn niwedd yr 1980au.

Dyw hi ddim yn glir eto ai taflegryn neu arfau cyffredin oedd yn gyfrifol am y saethu ond roedd 24 o filwyr o uned arbennig ar yr hofrennydd – dyna’r uned a laddodd arweinydd al Qaida, Osama bin Laden.

Taflegrau awyr

Os oedd y Taliban wedi defnyddio taflegrau awyr i saethu’r hofrennydd, roedd hynny’n debyg i’r cyrchoedd a chwalodd 20 o hofrenyddion y Sofietiaid, meddai mewn erthygl ar ei flog.

“Dyna oedd yr ergydion ola’ a orfododd Rwsia i frysio mas o Afghanistaan ar ôl deng mlynedd o ladd dibwrpas.

“Fydd (yr Unol Daleithiau) ddim yn gallu cuddio lladd 31 o’u milwyr dewr. Efallai y bydd gwirionedd salw rhyfel unwaith eto’n golygu diwedd sydyn i ryfel anghywir.”

‘Penderfynol’ meddai’r Llywodraeth

Ond mae’r Gweinidog Tramor, Alistair Burt, wedi mynnu na fydd yr ymosodiad yn effeithio ar ymroddiad gwledydd Prydain.

“Mae’r Unol Daleithiau, ni  phobol Afghanistan mor benderfynol ag erioed i wneud eu gwlad yn ddiogel at y dyfodol a dyw hynny ddim yn cael ei leihau gaan ddigwyddiad fel’na,” meddai ar raglen deledu Andrew Marr.