Mae hofrennydd milwrol wedi ei saethu i lawr yn Afghanistan gan ladd 31 o filwyr arbenigol yr Unol Daleithiau.

Roedd o leiaf chwech ohonyn nhw o’r uned SEAL oedd yn gyfrifol am ladd Osama bin Laden.

Cafodd saith o filwyr Afghanistan hefyd eu lladd yn y digwyddiad.

Mae’r Taliban wedi honni eu bod nhw wedi saethu’r hofrennydd i lawr â roced wrth iddo gymryd rhan mewn cyrch yn erbyn tŷ yn rhanbarth Wardak ddydd Gwener.

Cadarnhaodd uwch-swyddog yn Washington fod yr hofrennydd wedi ei saethu i lawr gan wrthwynebwyr.

“Roedd y gelyn yn weithredol yn yr ardal,” meddai Nato. Maen nhw’n parhau i ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.

“Rydyn ni yn y broses o asesu’r holl ffeithiau,” meddai’r Capten Justin Brockhoff o Awyrlu’r Unol Daleithiau.

Dywedodd yr Arlywydd Barack Obama fod beth ddigwyddodd yn ei atgoffa o’r “aberth hynod” y mae’r fyddin a theuluoedd y wlad yn ei wneud yn Afghanistan.

Ychwanegodd ei fod hefyd yn galaru “y bobol o Afghanistan fu farw wrth frwydro â’n milwyr ni”.

Dyma’r diwrnod gwaethaf i’r Unol Daleithiau yn Afghanistan o ran nifer y milwyr fu farw, ers dechrau’r rhyfel.

Ar 28 Mehefin, 2005, fe fuodd 16 o filwyr farw pan gafodd eu hofrennydd ei saethu i lawr.