Gabrielle Giffords
Derbyniodd y Gyngreswraig Gabrielle Giffords groeso mawr wrth iddi ddychwelyd i Dŷ’r Cynrychiolwyr er mwyn pleidleisio i gynnyddu dyled yr Unol Daleithiau neithiwr.

Dyma’r tro cyntaf iddi ddychwelyd i’r Gyngres ers cael ei saethu yn ei phen mewn ymosodiad laddodd chwech o bobol eraill.

Doedd ddim ei hangen hi yno yn y pen draw, wrth i’r mesur i osgoi methdalu gael ei ddilysu o 269 pleidlais i 161, ond roedd wedi mynnu teithio i Washington rhag ofn ei fod yn dynnach.

Tyrrodd aelodau eraill o’i hamgylch er mwyn ysgwyd llaw y Democrat o Arizona munudau cyn i’r mesur dadleuol gael ei dderbyn.

Cusanodd a chofleidiodd Gabrielle Giffords, 41, ei chydweithwyr wrth i’r rheini oedd yn siambr Tŷ’r Cynrychiolwyr gymeradwyo.

‘Perygl’

“Rydw i wedi bod yn dilyn y ddadl am ein dyled ni yn agos ac wedi fy siomi â beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn Washington,” meddai mewn datganiad.

“Roedd rhaid i mi fod yma er mwyn pleidleisio. Doeddwn i ddim am beryglu y gallai fy absenoldeb chwalu’r economi.”

Gadawodd Gabrielle Giffords Washington yn fuan ar ôl y bleidlais. Mae hi wedi bod yn derbyn triniaeth yn Houston, Texas, ers gadael yr ysbyty ym mis Mehefin.

“Mae’n golygu cymaint i’r wlad i’w gweld hi yn dychwelyd. Mae hi’n cynrychioli dewrder a diffuantrwydd y wlad ac yn cael ei hedmygu gan bawb,” meddai llefarydd yr wrthblaid yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr.

Nawr fod y mesur wedi goroesi Tŷ’r Cynrychiolwyr mae bron yn sicr y bydd yn cael ei dderbyn gan Senedd y wlad ac yna’r Arlywydd Barack Obama.

Os nad yw’r mesur yn cael ei wneud yn gyfraith cyn hanner nos heno ni fyddai Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn gallu talu ei ddyledion.

Roedd yr Arlywydd Barack Obama wedi rhybuddio y byddai effaith hynny yn drychinebus ac y gallai arwain at ddirwasgiad arall.