Eglwys Ciudad Juarez
Mae cyn-heddwas wedi cyfaddef iddo orchymyn i 1,500 o bobol gael eu lladd yn ystod ymgyrch dreisgar ym Mecsico, meddai’r heddlu.

Cafodd pennaeth y criw smyglo cyffuriau ei ddal yng ngogledd y wlad ddydd Gwener, meddai’r awdurdodau.

Dywedodd Arlywydd Mecsico, Felipe Calderon, ar ei gyfrif Twitter mai dal Jose Hernandez oedd er ergyd mwyaf i smyglo cyffuriau yn ninas Ciudad Juarez ers blynyddoedd.

Ym mis Ebrill 2010 anfonodd yr Arlywydd tua 5,000 o swyddogion yr heddlu i’r ddinas ar y ffin er mwyn ceisio atal y brwydro cyson yno.

Cafodd Jose Hernandez, 33, ei ddal yn ninas Chihuahua â’i warchodwr, meddai Ramon Pequeno, pennaeth uned wrthgyffuriau’r heddlu.

Er iddo gael ei arestio ddydd Gwener ni chadarnhawyd ei arestiad nes ddydd Sul pan gafodd ei ddangos i newyddiadurwyr yn Ninas Mecsico.

Dywedodd  Ramon Pequeno mewn cynhadledd i’r wasg fod Jose Hernandez, sy’n defnyddio’r llysenw El Diego, wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi gorchymyn i 1,500 o bobol gael eu lladd.

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl y bydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau eisiau mynd ag ef yno i wynebu achos llys.

Mae Jose Antonio Acosta Hernandez yn cael ei ddrwgdybio o ladd un o swyddogion consyliaeth yr Unol Daleithiau ger y ffin yn Ciudad Juarez.