Map o China
Mae saith o bobol wedi eu lladd, a 22 arall wedi eu hanafu, wedi i ddau ddyn yn chwifio cyllyll stopio lori ac yna ymosod ar dorf yn China.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad neithiwr yn ninas Kashgar yn nhalaith Xinjiang yng ngogledd-orllewin y wlad.

Mae swyddog yn adran diogelwch y cyhoedd yn Xinjiang wedi cadarnhau fod dau ddyn wedi heijacio lori a thrywanu ei gyrrwr i farwolaeth. Yna, fe yrron nhw’r lori i mewn i dorf o bobol a dechrau ymosod ar bobol yn y dorf.

Fe gafodd un o’r dynion ei ladd yn ystod y digwyddiad, ac mae’r llall wedi ei ddal. Dydi hi ddim yn glir beth oedd y rheswm y tu ôl i’w gweithred.