Traeth
Mae dyn ifanc o wledydd Prydain wedi marw yn Ibiza, ar ôl neidio oddi ar falconi fflat ar drydydd llawr adeilad.ibi

Fe laddwyd Samuel McCaughey yn syth yn dilyn y gwymp yn San Antonio fore ddoe.

Mae’r heddlu lleol bellach wedi agor ymchwiliad i amgylchiadau’r farwolaeth.

“Gallwn gadarnhau marwolaeth dinesydd Prydeinig yn San Antonio, Ibiza ar Orffennaf 29,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

“Mae’r llysgenhadaeth yn cynorthwyo’r teulu.”