Dinas Quetta
Mae gwyr arfog wedi lladd 11 o bobol ar ôl saethu at fws mini yn cario Mwslimiaid Shiite yn ne-orllewin Pacistan heddiw.

Fe gafodd dau o bobol eu hanafu hefyd yn yr ymosodiad yn Quetta, prifddinas talaith Baluchistan. Mae’r meirw yn cynnwys un wraig a dau o blant.

Y gred ydi fod y Mwslimiaid ar eu ffordd i dre’ Hazara, pan ymosodd pedwar gwr arfog ar y bws mini, cyn diflannu wedyn.

Wedi’u cythruddo gan y lladd, fe fu dwsinau o Fwslimiaid Shiite yn protestio wedyn, gan gau prif ffordd y ddinas a rhoi dau gar a dau fotor-beic ar dân. Fe lwyddodd yr heddlu i adennill rheolaeth o’r sefyllfa ar ôl gofyn am gymorth hynafgwyr Shiite lleol.

Mae’r heddlu’n dal i drio dod o hyd i’r gwyr arfog.

Does yr un grwp eto wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad, ond mae’r awdurdodau wedi beio grwpiau milwriaethus Sunni am drais o’r math hwn yn y gorffennol.