Tren bwled yn China (Lianspan CCA 2.0)
Mae adroddiad wedi dweud mai nam ar offer signalau achosodd chwalfa un o drenau chwim y wlad yr wythnos diwethaf.

Fe fu 39 o bobol farw wrth i chwe cherbyd adael y cledrau a syrthio 65 i 100 troedfedd o draphont ddydd Sadwrn.

Cafodd dros 190 o bobol hefyd eu hanafu yn y ddamwain ger Wenzhou yn rhanbarth Zhejiang.

Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach bod un trên wedi mynd i gefn un arall oedd wedi atal ar ôl cael ei daro gan fellten.

Dywedodd asiantaeth newyddion Xinhua y wlad fod swyddfa rheilffyrdd Shanghai wedi dod i’r casgliad mai nam yng nghynllun yr offer signalau oedd ar fai.

Mae Prif Weinidog China, Wen Jiabao, eisoes wedi gorchymyn ymchwiliad trylwyr i’r chwalfa.