Catherine a Ben Mullany
Maae  dau ddyn wedi eu cael yn euog o lofruddio pâr priod o Gymru oedd ar eu mis mel yn y Caribî.

Penderfynodd llys fod Ben a Catherine Mullany, o Bontardawe, wedi cael eu saethu yn eu chalet ar ynys Antigua gan Kaniel Martin, 23, a Avie Howell, 20.

Roedd y ddau ddiffynydd wedi gwrthod ateb unrhyw gwestiynau yn y llys ac wedi honni eu bod nhw’n ddieuog drwy gydol yr achos deufis o hyd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd dros 90 o lygaid-dystion wedi rhoi tystiolaeth.

Cafwyd y ddau yn euog gan reithgor yn Uchel Lys Antigua yn St John’s heddiw.

Bythefnos ar ôl lladd Ben a Catherine Mullany fe aeth Kaniel Martin ac Avie Howell yn eu blaenau i ladd y siopwraig 43 oed, Woneta Anderson.

‘Ddim yn deall’

Llefodd rhieni Ben a Catherine Mullany wrth i’r rheithgor gyhoeddi’r dyfarniad, ar ôl pendroni am 10 awr ac 20 munud.

Dywedodd y teulu na fydden nhw byth yn gallu deall pam fod y ddau wedi eu lladd.

“Does yna ddim llawenydd yn y ddedfryd heddiw, dim ond rhyddhad fod ein plant, a theulu Woneta Anderson, wedi cael cyfiawnder o’r diwedd,” meddai’r teulu.

“Ni fydd y ddau unigolyn fyth yn achosi’r un poen a thor calon i unrhyw deulu arall fel y maen nhw wedi gwneud i’n teulu ni.”

“Fe fydd Ben a Cath yn ein calonnau ni am byth. Maen nhw wedi gwneud ein bywydau ni’n hapus ac wedi cyfoethogi bob dydd yr oedden nhw gyda ni.

“Ar Orffennaf 12, 2008, fe dreuliodd Ben a Cath ddiwrnod perffaith gyda’u teulu a’u ffrindiau.

“Ychydig dros bythefnos yn ddiweddarach cafodd ein bywydau eu newid am byth wrth iddyn nhw gael eu cymryd oddi arnon ni.

“Roedden nhw’n mwynhau ein mis mel pan gafodd y ddau eu llofruddio gan Kaniel Martin ac Avie Howell, a dorrodd i mewn i’w bwythyn yng ngwesty Cocos, Valley Church.

“Ni fyddwn ni fyth yn gallu deall natur ddisynnwyr eu marwolaethau, y diffyg parch llwyr tuag at fywydau dynol a’r diffyg edifeirwch.”

Y cefndir

Dywedodd rhieni Ben Mullany, Cynlais a Marilyn, a rhieni Catherine, David a Rachel Bowen, fod gweld lladdwyr eu plant yn brofiad anodd iawn.

Daw’r ddedfryd bron i dair blynedd union ers y dydd y daethpwyd o hyd i gyrff y ddau. Roedden nhw wedi eu saethu yng nghefn eu pennau.

Dim ond ychydig dros bythefnos ynghynt roedd Ben, oedd yn hyfforddi i fod yn ffisiotherapydd, a Catherine, oedd yn ddoctor, wedi priodi.

Fe fu farw Catherine yn syth ond cafodd Ben ei hedfan yn ôl i Ysbyty Treforys, Abertawe, lle’r oedd  ei wraig yn gweithio, yn y gobaith o achub ei fywyd. Fe fu farw wythnos yn ddiweddarach.

Claddwyd y ddau ar dir yr eglwys ble’r oedden nhw wedi priodi tua phum wythnos ynghynt.