Susana Baca
Mae darpar arlywydd Periw wedi dewis un o gantoresau enwoca’r wlad yn weinidog diwylliant y Llywodreath.

Susana Baca fydd gweinidog llywodraeth croenddu cyntaf y wlad ers iddyn nhw ennill eu hannibynniaeth oddi wrth Sbaen yn 1821.

Mae Susana Baca yn cael ei hadnabod am roi llais i draddodiadau cerddorol a dawns yr Afro-Periwfiaid, disgynyddion y caethweision a brynnwyd yn ystod y cyfnod trefedigaethol.

Enillodd y gantores 67 oed wobr Grammy yn 2002 am ei halbwm Lamento Negro, yr oedd hi wed ei recordio dau ddegawd yng nghynt yn Ciwba.

Mae’r darpar arlywydd Ollanta Humala hefyd wedi enwi ei weinidog addysg, y sosiolegydd Patricia Salas.

Bydd Ollanta Humala yn esgyn i’r arlywyddiaeth yn swyddogol ddydd Iau.