Byddin yr Aifft
Mae protestwyr wedi mynd ben ben â’r fyddin sy’n rheoli’r Aifft dros y diwrnodau diwethaf, wrth iddi ddod i’r amlwg bod rhai cadfridogion yn closio at eithafwyr y Frawdoliaeth Fwslimaidd.

Mae llawer o brotestwyr ifanc sy’n parhau yn Sgwâr Tahrir yn gwrthwynebu’r cyd-weithio yn ffyrnig.

Tra bod yr anfodlonrwydd cyffredinol â’r fyddin yn parhau, mae rhai sydd yn anghyfforddus â’r berthynas wedi dweud y byddai’n well ganddyn nhw gael heddwch am y tro cyntaf ers i Hosni Mubarak gael ei wthio o’r arlywyddiaeth ym mis Chwefror, na gorfod ymladd trwy ragor o brotestio a gwrthdaro cyhoeddus.

Mae’r fyddin wedi bod yn defnyddio’u grym dros y cyfryngau i helpu eu hachos, trwy ledaenu straeon fod yr ymgyrchwyr yn “leiafrif trafferthus, ac wedi eu hariannu gan lywodraethau tramor i danseilio’r Aifft”.

Byddin yn benthyg cefnogaeth

Bu’r Cadfridog Mohammed al-Assar yn canmol y Frawdoliaeth yn ddiweddar, gan ddweud eu bod wedi chwarae rhan adeiladol iawn yn yr Aifft wedi cwymp Mubarak.

“Cam wrth gam, mae’r Frawdoliaeth yn newid ac yn mabwysiadu agwedd mwy cymedrol,” meddai mewn araith yn Washington, yn Sefydliad Heddwch y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r cadfridogion hefyd wedi annog protestiadau ar y stryd gan grwpiau sy’n cefnogi’r fyddin.

Maen nhw wedi bod yn cynnal ralïau yng Nghairo yn y bythefnos ddiwethaf, ac wedi ennyn sylw mawr ar y teledu.

Dros y penwythnos, cyhuddodd y fyddin un o brif grwpiau ymgyrchu’r ifanc, ‘Grŵp Ebrill 6’, o geisio creu rhwyg rhwng y fyddin a’r Eifftwyr, ac o dderbyn arian a hyfforddiant o dramor er mwyn ansefydlogi sefyllfa’r wlad.