Prif stryd Grand Prairie, Texas (Gp User CCA 3.0)
Fe gafodd pump o bobol eu lladd mewn digwyddiad mewn parti pen-blwydd yn yr Unol Daleithiau.

Mae’n ymddangos fod dyn wedi dechrau saethu yn ystod dadl yn y ganolfan sglefrolio yn Grand Prairie, Texas.

Roedd wedi anafu tri o bobol eraill hefyd ac wedyn wedi ei saethu ei hun.

Ffrae

Dyw’r amgylchiadau ddim yn glir eto ond roedd yr heddlu wedi dweud wrth bapur lleol mai ffrae rhwng gŵr a gwraig oedd wrth wraidd y digwyddiad.

Dyw enwau’r meirw ddim wedi eu cyhoeddi eto, na’u perthynas gyda’r saethwr.  Yn ôl yr heddlu, roedd y parti’n un preifat ond roedd y dyn wedi llwyddo i fynd i mewn ac wedyn wedi tynnu gwn.

Fe ddigwyddodd y saethu tua saith o’r gloch neithiwr, yn amser Texas, ac rai oriau’n ddiweddarach, roedd y cyrff yn dal i fod yn yr adeilad.